Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 932
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Tîm Gofal Plant Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd D
Cyflog: £24,790 - £25,584
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.85 - £13.26
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Os ydych yn berson trefnus, yn gallu aros yn ddigynnwrf wrth weithio mewn amgylchedd prysur, yn meddu ar sgiliau gwrando a llythrennedd rhagorol, yn meddu ar brofiad o daenlenni excel, mewnbynnu data a rheoli cronfeydd arian, yn gallu llunio crynodebau cywir o drafodaethau cyfarfodydd heb wneud camgymeriadau, ac eisiau gyrfa mewn adran sy'n ymroddedig i amddiffyn a diogelu plant a phobl ifanc yn ein cymuned, hoffem glywed gennych.
Os ydych wedi ymrwymo i yrfa mewn amgylchedd gweinyddol arbenigol, yna gallwn ddarparu'r gefnogaeth a'r cyfle i chi ennill y profiad a'r cymwysterau ar gyfer y swydd hon.
Noder: darllenwch y proffil swydd yn ofalus a rhowch enghreifftiau ysgrifenedig yn eich datganiad ategol i ddweud wrthym beth rydych wedi'i wneud a pham eich bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Sara Altman, SarAltman@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 034483.pdf - 158KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 29/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.