Cydlynydd Arweiniol Diogelu Oedolion (Oedolion/Diogelu a DoLS)
Dyddiad cau 11/03/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos - Parhaol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Mae'r Tîm Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol). Mae'm yn gyfeillgar, yn gyflym ac yn gefnogol, ac yn ymrwymedig i weithio tuag at a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddinasyddion yn ein hardal.
Mae'r MASH yn cydweithio'n agos ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru a'r Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cefnogi unigolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Ynghyd ag ymateb i adroddiadau Oedolyn sy'n Wynebu Risg, mae ein tîm yn gyfrifol am asesiadau DoLS ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith calonogol, ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus, cyfleoedd ar gyfer dysgu a goruchwyliaeth reolaidd, fyfyriol.
Rydym yn annog ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol, gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso. Yn gyfnewid byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Bethan Jones, Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion a DoLS ar bethan.jones@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr