Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1788
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Gorffennaf 2028
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.36 - £16.37
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Bydd y swydd gydlynydd asesu gofalwyr yn ymgymryd ag asesiadau statudol o ofalwyr, yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl, ac yn cysylltu â sefydliadau'r trydydd sector i edrych ar ffyrdd o gefnogi gofalwyr di-dâl. Bydd y cydlynydd asesu gofalwyr yn mynychu cyfarfodydd clystyrau meddygon teulu ac yn derbyn atgyfeiriadau drwy'r cyfarfodydd hynny.
Dylai ymgeiswyr fod yn unigolion brwdfrydig a phrofiadol sydd a'r gallu i weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i gynhyrchu asesiadau, datblygu cynlluniau gofal a chymorth, adolygiadau a gwaith uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r rhwymedigaethau statudol, ac mae angen iddynt allu dangos ymrwymiad gweithredol i'r egwyddorion o hyrwyddo annibyniaeth i bobl ag anabledd.
Mae'r swydd yn gysylltiedig â Thîm Gwaith Cymdeithasol Tymor Hir Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi oedolion ag anabledd corfforol ac oedolion hŷn ag anawsterau gwybyddol. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin, a byddwch yn cefnogi trigolion sy'n byw yng Nghaerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf, Sanclêr, Sant Pedr, Caerfyrddin; Furnace House, Morfa Lane, Meddygfa Tywi, Nantgaredig, Meddygfa Teilo, Llandeilo, Llanfair Surgery a Llanymddyfri. Gweler Manyleb y Person am fanylion maint y swydd.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu teithio ledled y Sir.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Sara Cunnah, Rheolwr Tîm -
SCunnah@carmarthenshire.gov.uk / 01267 246963 / 07812474342
Disgrifiad Swydd:
035056.pdf - 143KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 07/07/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.