Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae'r Tîm Anabledd yn dymuno recriwtio Cydlynydd Cefnogaeth Gymunedol brwdfrydig a phrofiadol.
Bydd y Cydlynydd yn gyfrifol am arwain a rheoli timau sy'n rhoi cymorth i oedolion ag anableddau o fewn gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Bydd y Cydlynydd yn gyfrifol am gefnogi'r Rheolwr Tîm gyda'i gyfrifoldeb gweithredol am y gwasanaeth, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Bydd penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr