Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Canolfan Riviere
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau?
Mae Tîm Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm i ddarparu cefnogaeth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mewn amgylchedd diogel, gofalgar a chefnogol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn • Cefnogi Rheolwr y Tîm gyda'u cyfrifoldeb gweithredol dros y gwasanaeth • Cydweithio gydag aelodau o'r tîm a phartneriaid allanol • Ymateb i heriau gyda gwydnwch a phroffesiynoldeb • Meddu ar ddealltwriaeth gref o'r ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol ddiweddaraf • Deall yr heriau a wynebir gan unigolion gydag anableddau a'u gofalwyr • Gallu gweithio'n annibynnol ar eu menter eu hunain • Meddu ar agwedd cadarnhaol, hyblyg a chanolbwyntio ar ddatrysiadau • Meddu ar sgiliau cyfathrebu a chydweithio gwych • Gallu dangos gwydnwch a pheidio â chynhyrfu dan bwysau • Meddu ar agwedd hyblyg at waith
Yr hyn a gynigiwn • Rhaglen gynefino gynhwysfawr • Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu arbenigol • Amgylchedd tîm cefnogol • Ymrwymiad i gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar eirdaon boddhaol a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs am y swydd cysylltwch â Os ydych chi'n chwilio am yrfa wobrwyol a boddhaus ac arnoch chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â Rebecca Humphreys.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr