Cydlynydd Cyd-gynhyrchu (Comisiynu) Swydd-ddisgrifiad Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys: 1. Bod yn gyfrifol am ddatblygu ystod o brosiectau Cyd-gynhyrchu ledled Powys gyda'r bwriad o ychwanegu llais unigolion â phrofiad uniongyrchol at ddylunio, darparu a monitro darpariaeth gwasanaeth yn barhaus.
2. Gweithredu prosesau adborth ar gyfer Bwrdd cynllunio'r ardal. 3. Datblygu a threfnu cyfres o Fforymau sy'n cynnwys llais unigolion â phrofiad uniongyrchol i nodi a mynd i'r afael â phryderon ledled Powys a rhoi adborth ynghylch canlyniadau. 4. Cydgysylltu a hyrwyddo cyd-gynhyrchu â'r holl randdeiliaid perthnasol gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, eu cynrychiolwyr/gofalwyr, rheolwyr gofal, gweithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion AGGCC. 5. Datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda rheolwyr darparwyr gwasanaeth er mwyn cynnig cefnogaeth adeiladol a arweinir gan gymheiriaid i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn bodloni safonau contract. 6. Darparu adroddiad profiad uniongyrchol cryno ar bob gwasanaeth a fonitrir i'r darparwr; y Rheolwr Comisiynu Strategol perthnasol, a rhanddeiliaid eraill a nodwyd. 7. Nodi, dogfennu ac adrodd am unrhyw feysydd sy'n peri pryder i'r uwch reolwyr perthnasol ynghylch materion diogelu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a'r awdurdod lleol drwy'r prosesau a gweithdrefnau rhyngasiantaethol cymeradwy. 8. Sefydlu a monitro perfformiad sicrwydd ansawdd parhaus darparwyr gwasanaethau yn unol â safonau Gwasanaeth newydd Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio llais y rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau. 9. Cydgysylltu'n effeithiol â chydweithwyr mewnol ac allanol i ddatblygu systemau i reoli gwybodaeth a choladu gwybodaeth data sy'n cyfrannu at y farn 'gyffredinol' o effaith defnyddio unigolion â phrofiad uniongyrchol. 10. Nodi ac ymchwilio i fodelau arfer gorau cyfredol mewn perthynas â Chyd-gynhyrchu megis P2P Naloxone. 11. Mae'r swydd hon yn gofyn am Wiriad Safonol DBS. 12. Gallaf, neu rwy'n barod i ddysgu o fewn cyfnod rhesymol o amser, sut i ynganu enwau personol ac enwau lleoedd Cymraeg yn gywir, a gallaf roi ac ymateb i gyfarchion sylfaenol ar y ffôn neu wyneb yn wyneb. 13. Cydweithredu â'u cyflogwr a dilyn cyngor a chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch 14. Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal fel y'u nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor
Mae angen Gwiriad Safonol y DBS i'r swydd hon
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr