Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Bron y Nant
A ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant, pobl ifanc ac oedolion?
Rydym ni'n frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella ansawdd bywydau plant, pobl ifanc ac oedolion a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posib' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy osod y plentyn, unigolyn ifanc neu'r oedolyn yn ganolog i'r holl gynlluniau cefnogi a strategaethau a ddatblygir i'w galluogi i fagu sgiliau ymhob agwedd ar eu bywydau a rhoi iddynt annibyniaeth ac ymdeimlad o gael eu cynnwys yn eu cymunedau, gyda phopeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Fel y Gweithiwr Cefnogi Ymddygiad Cynhwysol, byddwch yn atebol am oruchwyliaeth weithredol y tîm o Weithwyr Cymorth Sesiynol o fewn Bron y Nant, cartrefi unigolion a'r gymuned leol.
Un o'r prif feysydd cyfrifoldeb fydd sicrhau eich bod chi'n hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi 'Cefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol'Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dull canolog o alluogi plant, pobl ifanc ac oedolion i ymgysylltu mwy yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r rhai o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Fel y Gweithiwr Cefnogi Ymddygiad Cynhwysol, bydd gofyn i chi gefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i: • Reoli darpariaeth cyfrifoldebau gweithredol • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau yn y gwasanaeth rheoledig. • Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Bydd y Gweithiwr Cefnogi Ymddygiad Cynhwysol yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm o staff i sicrhau: • Eu bod nhw'n rhoi anghenion y plentyn, unigolyn ifanc a'r oedolyn wrth wraidd eu gofal, a sicrhau bod ganddyn nhw lais, dewis a rheolaeth dros gyrraedd canlyniadau sy'n eu helpu nhw i gyflawni eu nodau lles. • Bod plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu grymuso i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddylunio a darparu'r gwasanaeth drwy roi systemau cyfathrebu ar waith sy'n benodol i'r plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn, a fydd yn rhoi llais amlwg iddyn nhw ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Bydd disgwyl i chi: Fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal o ddydd i ddydd mewn modd sy'n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth fel bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael eu cefnogi i gyflawni popeth y gallan nhw; eu bod nhw'n cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir;n ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
Cefnogi'r Rheolwr Tîm drwy gydlynu gwaith y Gweithwyr Cefnogaeth Sesiynol mewn modd effeithiol, er enghraifft trefnu rotâu, sicrhau fod Cynlluniau Personol ac Asesiadau Risg yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, archebu hyfforddiant staff, bod yn barod i weithio ar eich liwt eich hun, cymryd cyfrifoldeb a rheoli unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â'r rôl.
Bod yn esiampl dda i holl aelodau'm o ran ymddygiad yn y gweithle a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bob aelod o'u tîm i wneud eu gwaith mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar eu cryfderau.
Cyfathrebu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol â'r plant, pobl ifanc ac oedolion, eu teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill o ddydd i ddydd yn ôl yr angen a datblygu perthnasoedd dwy ffordd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, gonestrwydd a pharch o fewn ffiniau'r swydd.
Goruchwylio a chynnig arweiniad yn y gweithle i Weithwyr Cefnogi a sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n ddiogel ac mewn modd sy'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol dan God Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: Meddu ar gymhwyster QCF Lefel 3 mewn Rheoli Gofal neu NVQ cyfatebol mewn Rheoli Gofal. Bydd gofyn i chi gwblhau Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae'r penodiad yn amodol ar 2 eirda boddhaol.
Mae'm yn darparu gwasanaethau 365 diwrnod y flwyddyn yn ystod y dydd, nos ac ar benwythnosau. Rydym felly yn chwilio am unigolion sydd ag agwedd hyblyg at yr oriau gwaith er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
O leiaf 5 mlynedd o brofiad a gwybodaeth o weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys unigolion ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Emma Edwards, Rheolwr Tîm, 07849631358 / 01492 575002 Emma.edwards1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr