Swyddog cymorth ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Cydlynydd Data Perfformiad Gofal Cymdeithasol Swydd-ddisgrifiad Am y rôl: Bydd y rôl hon yn cefnogi gwella ac ansawdd data perfformiad o fewn
Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y rôl yn gyfrifol am brofi a sicrhau ansawdd adroddiadau perfformiad cyfredol a newydd sydd ar gael i Wasanaethau Cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn rhoi adborth trylwyr i'r Tîm Gwybodaeth Fusnes ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod adroddiadau yn effeithiol ar gyfer staff Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y rôl yn gweithio ar draws Gwasanaethau Oedolion a Phlant a dylai deiliad y swydd fod yn brofiadol wrth drin data a meddu ar wybodaeth am brosesau, deddfwriaeth a chanllawiau Gwasanaethau Cymdeithasol. Dylai fod gan ddeiliad y swydd sgiliau dadansoddi a rheoli data, sylw uchel i fanylion, a'r gallu i weithio ar eu menter eu hun. Amdanoch chi: - Profiad o drin data - Gwybodaeth am brosesau, deddfwriaeth a chanllawiau Gwasanaethau Cymdeithasol - Sgiliau dadansoddi a rheoli data - Sylw uchel i fanylion - Y gallu i weithio ar eich menter eich hun Eich dyletswyddau: - Ymgymryd â gwaith i wella'r broses o gasglu data Gwasanaethau Cymdeithasol. - Cefnogi prosiectau i wella argaeledd, awtomatiaeth a chywirdeb data o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. - Cynnal profion ar systemau adrodd awtomatig Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys Adrodd ar Berfformiad. - Sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio â gofynion data cyhoeddus, rhanbarthol a chenedlaethol ac unrhyw geisiadau gan y partneriaid hyn yn ôl yr angen. - Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer hyfforddiant ac ymholiadau gan Wasanaethau i Oedolion a Phlant ynghylch defnydd Power BI a cheisiadau eraill ar gyfer y gwasanaethau. - Sicrhau bod yr adroddiadau a grëir yn hawdd eu defnyddio, a bod y data'n cael ei ddarparu mewn ffordd weledol ac ystyrlon. Am ragor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â: Jess Watlow (Swyddog Busnes ac Adnoddau, 01874 612162)
Mae angen Gwiriad Safonol y DBS i'r swydd hon.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr