Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Cydlynydd Diogelu Arweiniol
Disgrifiad Swydd Swydd wag:Cydlynydd Diogelu Arweiniol, Carfan Diogelu Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Swydd Barhaol Amser Llawn: Gradd 13)
Swyddfa: Gorsaf Heddlu Pontypridd
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: GR13 – £49,282 y flwyddyn
Mae cyfle prin wedi codi i Gydlynydd Diogelu Oedolion Arweiniol weithio o fewn Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf. Bydd y swydd yn y garfan Hwb Diogelu Amlasiantaeth yn Rhondda Cynon Taf. Y patrwm gwaith yw 37 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan weithio ar sail model hybrid, yn rhan o garfan gefnogol sydd wedi'i hen sefydlu. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol, megis Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol blaenorol, neu gymhwyster nyrsio, therapi galwedigaethol neu heddwas. Bydd gan yr ymgeisydd brofiad sylweddol o weithio gydag oedolion sy'n wynebu risg i gyflawni eu deilliannau ac i ddiogelu eu buddiannau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol mewn darparu a datblygu gwasanaeth Diogelu Oedolion arbenigol yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd yn cynnwys ymateb i adroddiadau diogelu, rheoli ymholiadau Adran 126, cyfarfodydd strategol, ymchwiliadau Diogelu, cynadleddau achos a sicrhau'r arfer gorau yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Hoffech chi sgwrs am y swydd? E-bostiwch Siobhan O'Reilly, Rheolwr tîm : Siobhan.O’Reilly@rctcbc.gov.uk
Bydd y swydd yn cael ei chynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus yn ddibynnol ar wiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, geirdaon a chwblhau proses gwirio cefndir Heddlu De Cymru.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr