Bydd rôl y Cydlynydd Diogelu yn sicrhau bod cyfarfodydd Diogelu yn cael eu cydlynu a'u cefnogi'n effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer Tîm Diogelu Plant Powys. Mae hyn yn cynnwys rheoli a chofnodi ar wahanol systemau cofnodi yn unol â gofynion deddfwriaethol.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid allanol.
Amdanoch chi: - Bod yn drefnus, cadw at gyfrinachedd, cofnodi a throsglwyddo gwybodaeth yn fanwl-gywir.
- Bod â dull rhagweithiol a heriol o weithio.
- Dangos empathi a gwydnwch wrth ddod i gysylltiad â gwybodaeth drawmatig.
- Meddu ar sgiliau TGCh rhagorol.
- Croesawu Polisi Gweithio Hyblyg Powys.
- Bod ag angerdd dros gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ym Mhowys.
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
- Cydlynu a chofnodi cyfarfodydd cymhleth fel Cynadleddau Diogelu Plant, Cyfarfodydd Strategaeth Broffesiynol a Chyfarfodydd Strategaeth Camfanteisio Ar Blant.
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer asiantaethau partner, gweinyddiaeth diogelu ac ymateb i ystod o ymholiadau dros y ffôn/ysgrifenedig, gwirio ceisiadau ar gofrestrau/systemau gwybodaeth a chyflawni tasgau cysylltiedig gan gynnwys prosesu post sy'n dod i mewn/allan.
- Drafftio llythyrau argymhellion yn dilyn Cynadleddau Achos Diogelu Plant, gan nodi'r wybodaeth berthnasol o'r drafodaeth sy'n sail i'r Cynllun Diogelu Plant.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â, llunio ac adrodd ar ystadegau dangosyddion perfformiad amserol a chywir.
- Cynnal y safonau uchaf o gyfrinachedd a diogelwch a sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu cynnal i gydymffurfio â gofynion GDPR.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: recruitment@powys.gov.uk Mae Gwiriad DBS Safonol yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.