Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o dîm rheoli y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, byddant yn rheolwr llinell ar gyfer pum aelod o staff, ac yn ail rheolwr llinell ar gyfer dau arall. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys dirprwyo dros Reolwr y Tîm pan na fyddant ar gael, rheoli rhediad y gwasanaeth o ddydd i ddydd, cadeirio cyfarfodydd, a mynychu fforymau rhanbarthol neu genedlaethol o bryd i'w gilydd.
O ddydd i ddydd, byddwch yn: - Goruchwylio gweithrediadau logisteg y gwasanaeth
- Gwneud penderfyniadau allweddol ynghylch blaenoriaethu tasgau a materion gweithredol
- Cynnig cyngor ac arweiniad i weithwyr proffesiynol eraill
- Goruchwylio'r broses o redeg warws prysur yn ddiogel
- Mynychu cyfarfodydd er mwyn trafod gweithrediadau dyddiol a chynlluniau strategol ar gyfer y gwasanaeth
Ein hymgeisydd delfrydol Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig a phrofiadol, ac rydym yn chwilio am rai o'r nodweddion canlynol:
- Y gallu i fod yn arloesol ac yn greadigol wrth ddatrys problemau
- Dawn trefnu a chynllunio
- Rhywun sy'n teimlo'n angerddol am oruchwylio a chynorthwyo staff
- Y gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith effeithiol gydag ystod eang o asiantaethau ac unigolion
- Sgiliau a phrofiad o baratoi cofnodion ac adroddiadau manwl
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cynigir gwersi wedi'u hariannu, yn ystod oriau gwaith, i bob ymgeisydd llwyddiannus y mae gofyn iddynt gael cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg, er mwyn eu helpu i gyrraedd y safon ddymunol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am wybodaeth bellach a thrafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Adam Foale yn y lle cyntaf, trwy anfon e-bost at
adam.foale@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng