Mae'r Tim Cymorth Rhianta a Theuluoedd yn darparu Cymorth I deuluoedd sy'n eu galluogi I wella lles, gwydnwch, perthnasoedd teuluol a chyrraedd eu potensial. Mae'r tim yn canolbwyntio ar Ymyrraeth Gynnar ac yn cynnwys y darpariaethau canlynol: 
 - Tim o Amgylch Y Teulu
- Dechrau'n Deg
- Cymorth Rhianta
- Canolfannau Plant a Theuluoedd
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a hunangymhellol sy'n gallu: 
 - creu mecanweithiau addas i fonitro a gwerthuso perfformiad y rhaglenni ar draws yr holl ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod y rhaglenni'n diwallu'r anghenion rhieni, gofalwuy a teuluoedd yng Ngheredigion
- cynorthwyo'r Rheolwr Rhianta a Chefnogaeth i Deuluoedd i ddarparu dangosfyrddau Power BI ynghyd ag adroddiadau, graffiau, tablau i feincnodi, tueddiadau'r dystiolaeth a chanlyniadau. Rhoi gwybod i uwch-reolwyr am berfformiad y gwasanaeth gan gynnwys ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid
- cymeryd rhan allwedol wrth gynnal a diweddaru sistemau TG
- dehongli setiau data cymhleth a chynnig mewnwelediad are u perthnasedd I ddatblygu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer Rhieni, Gofalwyr a Theuluoedd yng Ngheredigion
Ein cynnig i chiRydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni. 
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol,cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%,buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles. 
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr
yma. 
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol: 
 - Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa. Oherwydd natur y rôl, bydd angen i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cysylltwch â niAm wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch âMari Jefferis ar 
Mari.Jefferis@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.  Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau  blaenorol  o  reidrwydd  yn  anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio. 
 Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith 
 Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael 
 Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
 Lle byddwch yn gweithio Porth Cymorth Cynnar - Llesiant Cymunedol a Dysgu 
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: 
 Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
 Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere... 
 Darllen mwy