HELPWCH I SIAPIO DYFODOL GOFAL CYMUNEDOL YNG NGHONWY:Swydd Cyfnod Penodol / Cyfle am Secondiad
Ydych chi'n barod i fod yn rhan o ffordd newydd o ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghonwy? Rydym yn chwilio am ddau unigolyn deinamig, trefnus a blaengar i ymuno â'n Timau Adnoddau Cymunedol fel
Cydlynwyr Timau Adnoddau Cymunedol.Dyma gyfle am gyfnod penodol o 18 mis ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno ymgeisio am secondiad. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr cyn ymgeisio am secondiad.
Ynglŷn â'r SwyddFel Cydlynydd Tîm Adnoddau Cymunedol fe fyddwch yn greiddiol i'n hymagwedd integredig tuag at ofal yn y gymuned. Byddwch yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol a gwasanaethau lleol i sicrhau fod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir yn y lle cywir. Fel Cydlynydd Tîm Adnoddau Cymunedol byddwch yn:
- Cefnogi Rheolwyr Timau Adnoddau Cymunedol ac Ymarferwyr Arweiniol i ddatblygu gwaith integredig ac aml-ddisgyblaethol
- Cydlynu llif gwaith, cyfarfodydd a chynllunio gwasanaeth ar draws y timau
- Helpu i osod systemau newydd a chefnogi newid o ran y gwasanaeth
- Cydgysylltu gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, sefydliadau gwirfoddol a'r gwasanaethau brys
- Casglu a dadansoddi data i gefnogi gwella gwasanaeth
- Chwarae rhan allweddol mewn siapio dyfodol gofal cymunedol yng Nghonwy
Dyma eich cyfle i fod yn rhan o rywbeth trawsnewidiol. Fel Cydlynydd Tîm Adnoddau Cymunedol fe fyddwch yn greiddiol i ymagwedd newydd tuag at ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar y gymuned - gan helpu i siapio dyfodol gwasanaethau integredig ar draws Conwy.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Carol Walker, Arweinydd Datblygu'r Timau Adnoddau Cymunedol ar: 01492 576551 am sgwrs anffurfiol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Carol Walker, Arweinydd Datblygu Tîm Adnoddau Cymunedol ( carol.walker@conwy.gov.uk / 01492 576551)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i sgwrsio'n gyfforddus â phobl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o'r swyddi ac yn ddymunol ar gyfer y swydd arall. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.