Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1740
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Adnoddau Gweithwyr
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Cyfarwyddwyr
Cyflog:
£133,869 - £143,878
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£69.39 - £74.58
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n arweinydd eithriadol sy'n frwd dros gael effaith barhaol ar gymunedau?
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am unigolyn rhagorol a dynamig i fod yn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai i arwain ein gwasanaethau arloesol a hybu newid trawsnewidiol.
Fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, byddwch chi'n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o reoli ein Cyngor yn strategol. Fel rhan o'r Tîm Rheoli Corfforaethol, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr i gyflawni ein hamcanion cyffredinol. Bydd eich arweinyddiaeth weledigaethol yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol, canllawiau'r llywodraeth, ac uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.
Gan arwain tîm arbenigol, byddwch chi'n gwneud y canlynol:
- Dylunio ac arwain y gwaith o ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant, gan drawsnewid mynediad a darpariaeth i ddiwallu anghenion preswylwyr.
- Sicrhau bod trefniadau diogelu cadarn ac effeithiol ar waith i amddiffyn oedolion, plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.
- Cyfarwyddo a rheoli Strategaethau Tai y Cyngor, gan fynd i'r afael â digartrefedd, dyraniadau a gwasanaethau statudol landlordiaid.
- Goruchwylio cyllidebau ac adnoddau, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol.
Rydyn ni'n chwilio am arweinydd sydd nid yn unig yn brofiadol ac yn hynod fedrus ond hefyd yn weledigaethol ac yn arloesol. Bydd gennych chi brofiad llwyddiannus mewn rolau uwch-arweinydd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, neu lywodraeth leol. Bydd eich gallu i addasu i newid, cydweithio, a gwneud penderfyniadau strategol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn hanfodol. Yn bwysicaf oll, byddwch chi'n gwybod beth yw gwasanaethau o'r radd flaenaf a sut i helpu staff ac Aelodau Etholedig i gyflawni'r safonau hyn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol uchel ei berfformiad, bywiog a blaengar sy'n ceisio gwella'n barhaus ac mae wedi ymrwymo i gynnal ei enw rhagorol am wasanaethau o'r radd flaenaf. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus. Mae ein tîm arweinyddiaeth wedi ymroi i dwf proffesiynol a sicrhau bod ein gweithlu yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arferion gorau wrth ddarparu gwasanaethau.
Felly, drwy fod yn rhan o un o'r Cynghorau Sir mwyaf yng Nghymru, byddwch chi nid yn unig yn mwynhau'r her, ond hefyd yn mwynhau cael effaith gadarnhaol. Ymunwch â ni i arwain tîm o weithwyr proffesiynol angerddol sydd wedi ymroi i wella bywydau'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Byddwch yn rhan o Gyngor blaengar sy'n gwerthfawrogi cydweithredu, arloesi a rhagoriaeth.
Os ydych chi'n barod i ymgymryd â'r rôl heriol hon a fydd yn rhoi boddhad mawr, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Mae manylion yn ychwanegol ynghylch y rôl ar gael yma
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ffonio 01267 224110
Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hunaniaeth Sir Gaerfyrddin a'i phobl. Os nad ydych chi'n bodloni'r safon o ran y Gymraeg sydd wedi'i phennu ar gyfer y swydd hon eto, bydden ni wrth ein bodd yn darparu'r cymorth cywir i chi ddatblygu'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.Dyddiad cau: Canol dydd 9 Mehefin 2025Llunio Rhestr Fer: 18 Mehefin 2025Y Ganolfan Asesu: 24 Mehefin 2025 Panel Penodi 'A': 2 Gorffennaf 2025Disgrifiad Swydd:
Director of Social Services and Housing.pdf - 236KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 09/06/2025, 12:00
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.