Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Parhaol 37 Awr yr wythnos
G04 - £24,790 - £25,183 y flwyddyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi buddsoddi yn ei Wasanaeth Gofal Cymdeithasol fel rhan o raglen barhaus i ddiogelu a chefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Bydd y Cymhorthydd Cefnogi Busnes yn darparu cymorth i'r Tîm Un Pwynt Mynediad drwy ymgymryd ag ystod amrywiol o dasgau gweinyddol e.e. diweddaru'r gronfa ddata ar gyfer yr holl atgyfeiriadau newydd a dderbynnir i'r tîm mewn perthynas â phryderon am blant a phobl ifanc, cyswllt ffôn, llungopïo, ffeilio ac ati.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau gweinyddol, cyfathrebu a sgiliau ysgrifenedig a rhyngbersonol ardderchog, yn ogystal â'r gallu i weithio ar eu liwt eu hunain.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd uchod, cysylltwch â Shaheen Lalloo - Rheolwr Cefnogi Busnes ar 01978 295305 neu anfonwch e-bost at Shaheen.Lalloo@wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.