Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i gynorthwyo gyda thasgau domestic a glanhau yn y Cartref. Disgwylir i'r sawl a benodir weithio fel aelod o dim i sicrhau awyrgylch mor gartrefol a phosib i'r trigolion ac i ymrwymo i raglen hyfforddiant yr Adran.
Bydd y sawl a benodir yn ymroddedig gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau yr unigolyn bob amser.
Gofynnir i bawb sy'n cael rhestr fer am gyfweliad ymgeisio am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu a Rheolwr Cartref Plas Hafan, Nefyn
(Ffon: 01758720671)
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon. LL55 1SH. Rhif Ffon 01286 679076.
DYDDIAD CAU: 17/03/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais NEU lythyr. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant (1).pdf
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Person gweithgar a thaclus
Bod yn berson, ymroddedig gyda'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser.
Gallu gweithredu fel aelod o dim a derbyn cyfarwyddiadau.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol -
Dymunol Tystysgrif Glendid Bwyd
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o baratoi bwyd blasus a syml..
Profiad o waith domestig
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau glanhau
Sgiliau coginio sylfaenol
Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth am anghenion pobl hyn
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo gyda threfniadau a gweithgareddau'r gegin ac yn absenoldeb y Cogydd(es) a'r Cogydd(es) Cynorthwyol paratoi coginio a chyflwyn prydau yn unol a'r bwydlenni. Cyflawni dyletswyddau domestig a glanhau cyffredinol gan ddefnyddio'r holl offer glanhau sydd ar gael.
• Cyflawni dyletswyddau cyffredinol yn yr ystafell fwyta neu yn y gegin h.y. gosod/clirio byrddau, cludo prydau i'r ystafell fwyta, golchi llestri, gweini prydau a gwneud te o bryd i'w gilydd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyfrifoldeb i ddefnyddio holl offer sy'n gysylltiedig a'r gegin yn ofalus ac yn ddiogel gan bysbysu'r Cogyd(es) a/neu'r Rheolwr Cofrestredig o unrhyw wendid yn yr offer ac adeilad y gegin.
Prif ddyletswyddau • Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a'u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i'r math o fwyd a ddarperir.
• Sicrhau fod yr holl dasgau a gyflawnir yn cael eu gwneud yn unol a'r ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol a pholisiau a chanllawiau'r Cyngor.
• Yn absenoldeb y cogydd(es) a'r cogydd(es) cynorthwyol archebu, paratoi, coginio a chyflwyno bwyd meithlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a'r canllawiau perthnasol.
•r cogydd(es) cynorthwyolcynllunio a dilyn bwydlen gan gynnwys rheoli maint y prydau yn unol â'r canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
• Mynychu hyfforddiant perthnasol i'r swydd.
• Mynychu cyfarfodydd staff.
• Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
• Cydymffurfio gyda'r gofynion perthnasol o'r Ddeddf Safonau Gofal 2000.
• Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i'r gweithiwr a/neu'r gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • -
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr