Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Alexandra Campbell ar 01341 280 053
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 19/03/2025 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Gwsanaethau Oedolion.pdf
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Bod yn berson sensitif, ymroddedig gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser.
Person aeddfed sydd yn gallu derbyn cyfrifoldebau
Gallu gweithredu fel aelod o dim.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol -
Dymunol Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o ofalu neu ymwneud a 'r henoed
Profiad o waith domestig
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth am anghenion yr henoed
Dymunol -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau • Sicrhau a parchu urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.
• Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
• Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
• Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
• Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.
• Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr y Cartref.
• Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Angen i weithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota.
• Telir lwfans ychwanegol am yr uchod.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr