Oriau gwaith 136.5 dros pedair wythnos
- Wythnos 1 gweithio 37.5 (12.5 x3)
- Wythnos 2 gweithio 37.5 (12.5 x3)
- Wythnos 3 gweithio 25 (12.5 x 2)
- Wythnos 4 gweithio 37.5 (12.5 x3)
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
I ymgeisio am y swydd cliciwch ar y linc yma
Bydd angen sicrhau eich fod wedi lawrlwytho 'Adbobe Reader DC' er mwyn gallu cwblhau ffurflen gais.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Michelle Jones ar 01758 720671 neu ar ebost: MichelleJones@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
Ebost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, 18/03/2026Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant (3).pdf
Manylion Person Nodweddion personolHanfodolCyfeillgar, allblyg ag yn barod i ymgymryd a hyfforddiant
Y gallu i weithio fel rhan o dim aml-ddisgyblaeth
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dim
Person cydwybodol, creadigol, emosiynol a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion.
Bod yn gadarnhaol ac yn angerddol
Ddim yn farnwr
Yn gallu gwrando a pharchu syniadau eraill, er na fyddwch yn cytuno
Yn gallu defnyddio'ch dychymyg i gysylltu'n emosiynol ag eraill
Gwerthfawrogi gallu'r unigolyn
Gallu gwneud y gorau o'r amser y mae'n rhaid i chi gysylltu yn gadarnhaol a'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth
Yn gallu adnabod a chefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol
Yn gallu gwerthfawrogi a pharchu sgiliau a phersonoliaethau eraill
Y gallu i fod yn hyblyg
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar
Dymunol-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol-
DymunolNVQ level 2/QCF 2 mewn Gofal
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Yr opsiwn i fod yn champion mewn maes arbennigol
Profiad perthnasolHanfodol-
DymunolProfiad o gefnogi unigolion i fyw eu bywydau fel maent yn dymuno.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodolMeddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dymunol-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - CanolraddGallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - CanolraddDeall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - CanolraddGallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y swydd • Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor. Cyfrifoldeb am y preswylwyr yn ystod oriau nos yn absenoldeb y rheolwr
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr cofrestredig neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau • Sicrhau a pherchir urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.
• Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
• Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
• Bod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
• Gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynhadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
• Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
• Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
• Ymgymeryd a'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi'r Cyngor.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol. A sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.
• Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr Cofrestredig y Cartref.
• Ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau'r Cyngor yngln ag arferion da a materion yn ymwneud a Iechyd a Diogelwch.
• Wrth ddod ar ddyletswydd ymgydnabyddu a chyflwr cyffredinol yr holl breswylwyr a'r sefyllfa gyfredol o fewn y cartref.
• Derbyn defnyddwyr newydd i'r cartref mewn amgylchiadau brys.
• Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol