Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elen Foulkesar 07958181570
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 31.07.2025 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu cyflwyno ei hun yn hyderus gan hefyd ddangos chwrteisi ar pob achlysur
Agwedd hyblyg
Gallu i weithio ar eich pen eich hun
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
TGAU neu gyfatebol yn y Gymraeg neu Saesneg a Mathamateg.
Hyfforddiant hyd at safon derbyniol mewn gweinyddiaeth a sustemau cyfrifiaduron.
DYMUNOL
Cymwysterau ar gyfer defnyddio Basdata a Thaenlennau.
NVQ Lefel 3 Neu Tystysgrif Gweinyddu Busnes.
ECDL.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddefnyddio Word, Excel ac Access
Cofnodi mewn cyfarfodydd
Cynnal sustemau gweinyddol mewn swyddfa.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda phobl ac yn gallu parchu'r angen i fod yn gyfrinachol .
Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
Bod yn drefnus a blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen
Sgiliau Prosesu Geiriau
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
- Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i'r gofynion canlynol:-
- Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa.
- Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion manwl a chywir.
- Prosesu geiriau fel llythyrau ac adroddiadau.
- Cadw a sefydlu systemau ffeilio papur ac electroneg.
- Ateb y ffon gan gofnodi negeseuon a chynnal dyddiaduron y staff perthnasol.
- Archebu adnoddau, llungopïo, casglu a dosbarthu post.
- Codi, prosesu a thracio anfonebau gan gynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen.
- Derbynfa a llogi ystafelloedd gan osod yr ystafelloedd i ddymuniad y cleientiaid.
- Gweinyddu grantiau drwy gasglu ceisiadau, cytundebau lefel gwasanaeth, adroddiadau monitro a phrosesu taliadau.
- Cefnogi gyda trefniadau gweinyddol trefnu hyfforddiant i'r gweithlu Blynyddoedd Cynnar.
- Gweithio fel rhan o dîm ar gyfer darparu gweinyddiaeth gyffredinol yn y swyddfa a dirprwyo dros aelodau eraill o'r tîm gweinyddol fel bod angen (a gall olygu ar adegau weithio o safleoedd eraill)
- Adrodd ar unrhyw faterion i'r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol a Busnes neu Uwch Rheolwr o fewn yr uned.
- Cynorthwyo i farchnata holl waith uned drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd fel-
-Diweddaru rheolaidd i'r safle wê a cyfryngau cymdeithasol Teulu Gwynedd
-Gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau.
-Cynhyrchu erthyglau, datganiadau a defnyddiau cyhoeddusrwydd.
-Trefnu hysbysebion i'r wasg.
- Gofalu am y dderbynfa drwy ymateb i ymholiadau ymwelwyr sydd yn dewis galw heibio a hefyd ymateb i alwadau ffôn neu e-bost a chyfeirio ymlaen fel bo angen. Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan gymryd a throsglwyddo negeseuon yn glir a chryno a thrin yr ymholwyr pob amser yn gwrtais. Cadw'r dderbynfa yn daclus bob amser. Helpu gyda gwiriadau I&Diogelwch y safle.
- Cyfrifoldeb dros weinyddu llogi adnoddau ar y safle.
- Sicrhau cysondeb yn y gefnogaeth weinyddol o fewn y Gwasanaeth gan gydweithio'n agos gyda Cymhorthyddion ac Uwch Gymhorthyddion eraill o fewn yr uned.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Oriau Gwaith: Oriau sefydlog ond gofynnir i weithio ar rota. Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.