Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Gweithio hyblyg ar draws safleoedd y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol Bob Dydd - Ydych chi'n drefnus, yn gallu addasu'n hawdd ac yn dda gyda phobl? Ydych chi'n mwynhau bod yn rhan o dîm cefnogol mewn amgylchedd prysur? Os felly, efallai mai dyma'r cyfle perffaith i chi.
Rydym yn chwilio am rhywun sy'n ffynnu ar amrywiaeth ac sydd am ddatblygu eu gyrfa ym maes cymorth busnes a gweinyddiaeth. Byddwch chi'n ymuno â thîm Cymorth Busnes Gofal Cymdeithasol deinamig, gan weithio gyda'r Timau Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai a'r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol - sydd i gyd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cymunedau.
Beth Fyddwch Chi'n Ei Wneud - Yn y rôl werthfawr hon byddwch chi'n:
- Darparu cefnogaeth weinyddol o ddydd i ddydd yn yr adran - Croesawu ymwelwyr, trefnu cyfarfodydd a chydlynu ystafelloedd cyfarfod - Rheoli galwadau a negeseuon e-bost gan y cyhoedd, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth - Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth) - Cyflawni dyletswyddau swyddfa hanfodol fel mewnbynnu data, rheoli systemau gwybodaeth, prosesu taflenni amser, paratoi llythyrau a mwy
Mae pob diwrnod yn wahanol - a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn gyda hyfforddiant ac arweiniad er mwyn i chi ragori a datblygu yn y swydd.
Beth Ydym Ni'n Chwilio Amdano - Er mwyn llwyddo, bydd angen y pethau hyn arnoch:
- Lefelau uchel o integriti a chadernid personol - Gallu peidio â chynhyrfu o dan bwysau - Gallu rhoi sylw i fanylion - Sgiliau cyfathrebu gwych - Hyder wrth ddefnyddio Microsoft Office - Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn y Gymraeg er mwyn i ni allu cynnig dewis iaith i'n dinasyddion a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth hygyrch a chefnogol i bawb
Pam Ymuno  Ni? - Byddwch chi'n rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol sy'n gwerthfawrogi eich cyfraniad. Byddwch yn ennill profiad mewn maes gwasanaeth allweddol, helpu i sicrhau bod swyddogaethau bob dydd yn cael eu cyflawni'n ddidrafferth a chwarae rôl bwysig wrth gefnogi gwasanaethau hanfodol i bobl Conwy.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr