Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Ar adegau y bydd yr angen i weithio yn safle Plas Pawb, Maesincla, Caernarfon ac o safle Ty Cegin, Maesgeirchen, Bangor.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elen Foulkes ar ElenFoulkes@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau - 09/10/2025.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 10:00 O'R GLOCH, DYDD MAWRTH, 30/09/2025. Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL HANFODOL Gallu cyflwyno ei hun yn hyderus gan hefyd ddangos chwrteisi ar pob achlysur Agwedd hyblyg Gallu i weithio ar eich pen eich hun
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL HANFODOL TGAU neu gyfatebol yn y Gymraeg neu Saesneg a Mathamateg. Hyfforddiant hyd at safon derbyniol mewn gweinyddiaeth a sustemau cyfrifiaduron.
DYMUNOL Cymwysterau ar gyfer defnyddio Basdata a Thaenlennau. NVQ Lefel 3 Neu Tystysgrif Gweinyddu Busnes. ECDL.
PROFIAD PERTHNASOL HANFODOL Profiad o ddefnyddio Word, Excel ac Access a chronfeydd data. Cofnodi mewn cyfarfodydd Cynnal sustemau gweinyddol a monitro mewn swyddfa.
DYMUNOL -
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL HANFODOL Gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda phobl ac yn gallu parchu'r angen i fod yn gyfrinachol . Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd Bod yn drefnus a blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen Sgiliau Prosesu Geiriau Defnydd o Excel a Cronfeydd data
DYMUNOL -
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd. • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. • Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd. • Cefnogi trefniadau monitro yr Uned
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer -
Prif Ddyletswyddau. • Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i'r gofynion canlynol:- o Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa. o Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion manwl a chywir. o Prosesu geiriau fel llythyrau ac adroddiadau. o Cadw a sefydlu systemau ffeilio papur ac electroneg. o Ateb y ffon gan gofnodi negeseuon a chynnal dyddiaduron y staff perthnasol. o Archebu adnoddau, llungopïo, casglu a dosbarthu post. o Codi, prosesu a thracio anfonebau gan gynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen. o Derbynfa a llogi ystafelloedd gan osod yr ystafelloedd i ddymuniad y cleientiaid. o Cefnogi gyda trefniadau gweinyddol trefnu hyfforddiant i'r gweithlu Blynyddoedd Cynnar. • Gweithio fel rhan o dîm ar gyfer darparu gweinyddiaeth gyffredinol yn swyddfa a dirprwyo dros aelodau eraill o'r tîm gweinyddol fel bod angen (a gall olygu ar adegau weithio o safleoedd eraill) • Adrodd ar unrhyw faterion i'r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol neu Uwch Rheolwr o fewn yr uned. • Cynorthwyo i farchnata holl waith uned drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd fel- o Diweddaru rheolaidd i'r safle wê a cyfryngau cymdeithasol Teulu Gwynedd o Gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau. o Cynhyrchu erthyglau, datganiadau a defnyddiau cyhoeddusrwydd. o Trefnu hysbysebion i'r wasg. • Gofalu am dderbynfa trwy ymateb i ymholiadau ymwelwyr sydd yn dewis galw heibio a hefyd ymateb i alwadau ffôn neu e-bost a chyfeirio ymlaen fel bo angen. Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan gymryd a throsglwyddo negeseuon yn glir a chryno a thrin yr ymholwyr pob amser yn gwrtais. Cadw'r dderbynfa yn daclus bob amser. Helpu gyda gwiriadau Iechyd a Diogelwch y safle. • Cyfrifoldeb dros weinyddu llogi adnoddau. • Sicrhau cysondeb yn y gefnogaeth weinyddol o fewn y Gwasanaeth gan gydweithio'n agos gyda Cymhorthyddion ac Uwch Gymhorthyddion eraill o fewn yr uned. • Cyflawni gofynion monitro yr Uned drwy weithio ochr yn ochr gyda'r Uwch Swyddog Busnes, Swyddog Busnes a'r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol. • Cynorthwyo gyda holl anghenion monitro data sy'n ymwneud ag asesiadau plant a thaliadau ar gyfer darparwyr ar gyfer holl rhaglenni'r Uned. • Cynorthwyo'r Swyddogion Busnes i sicrhau fod adroddiadau cyllidol a pherfformiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ogystal a chyfarfodydd perthnasol yr adran. • Cyfrifoldeb i sicrhau dealltwriaeth chywir a chyson wrth defnyddio system data newydd yr Uned yn ogystal ag unrhyw system arall. • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor. • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd. • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. AMODAU GWAITH Cyflogaeth: Dros dro Oriau Gwaith: Oriau sefydlog 37 awr yr wythnos ond gofynnir i weithio ar rota. Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr