Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhian Wyn Jones ar 01286 678824 neu drwy e-bost: Rhianwynjones@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd (3).pdf
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei ben/phen ei hun.
Hunan-ysgogiad.
Hyderus, brwdfrydig ac yn dangos menter.
Personoliaeth bywiog, diplomyddol a chroesawgar.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Meddu â phrofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant
• Tystysgrif CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
• CGC Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar / Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Tystysgrif Lefel 2 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Cymhwyster perthnasol arall neu
• Parodrwydd i weithio tuag neu'n gweithio tuag at yr uchod
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am wybodaeth o'r Cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru:
Dymunol Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
Amddiffyn Plant.
Codi a Thrin.
Tystysgrif Cymorth Cyntaf.
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o ddarparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd.
Dymunol -
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Dealltwriaeth o'r mathau o ffactorau sy'n effeithio ar fywydau plant a'u teuluoedd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu.
Gwybodaeth am y Dechrau'n Deg, Cwricwlwm i Gymru, Chwarae a'r Cynnig Gofal Plant
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Gwybodaeth drylwyr am yr arfer orau wrth ofalu am blant hyd at 11 oed.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd i blant oed ysgol.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfle cyfartal.
Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant a'r gallu i fodloni anghenion plant unigol gan ddangos ystod eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol.
Dymunol Sgiliau cyfrifiadurol da.
Trwydded yrru gyfredol lawn.
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa a Rheolwraig y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu meithrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • -
Prif ddyletswyddau • Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad â Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu trosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd.
• Meddu ar ddealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio'r system gweithwyr allweddol.
• Gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr a'r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy'n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy'n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
• Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy'n cymell y plant i chwarae'n rhydd.
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy'n mynychu'r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hîl, crefydd, iaith ac anabledd.
• Bod mewn cyswllt â rhieni/gofalwyr ac annog iddynt fod a wnelo â lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a'u datblygiad.
• Parchu a dilyn trefniadau ar gyfer babanod a phlant bach sy'r feithrinfa fel yr amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
• Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o'r ysgol.
• Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy'r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo'r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Gyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
• Ymgyfarwyddo â dilyn Safonau Cenedlaethol gofal dydd llawn mae'n ofynnol eu cyrraedd o leiaf, fel yr amlinellir o fewn canllawiau cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
• Cydrannu'r cyfrifoldeb dros warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y cynhwysir o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
• Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau'n Deg.
• Meithrin perthnasoedd gweithio da gydag a dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud â datblygiad a gofal plant unigol.
• Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a dal i feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy'n berthnasol i'r swydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn barod i weithio tuag at sicrhau cymhwyster galwedigaethol a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, e.e. NVQ 2/3.
• Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
• Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glân gydol yr amser.
• Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i'r safonau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledu, yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy'r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Oriau gwaith yw gadarnhau tuag at yr amser, ond gofynnir i weithio ar rota sy'n hyblyg o 8 y bore i 6 yn y nos.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr