Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhian Wyn Jones ar 01286 678824
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD IAU , 10/04/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd (2).pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei ben/phen ei hun.
Hunan-ysgogiad.
Hyderus, brwdfrydig ac yn dangos menter.
Personoliaeth bywiog, diplomyddol a chroesawgar
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol e.e.
Diploma neu Radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar
Diploma neu CGC Lefel 4 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Diploma NNEB/CACHE
Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng
Cymraeg)
Diploma Lefel 3 neu Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
CGC Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
Cymhwyster perthnasol arall.
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am restr o'r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru
Parodrwydd i fynychu hyfforddiant Elkan a Makaton o fewn blwyddyn i'r penodiad
Dymunol Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
Amddiffyn Plant.
Codi a Thrin.
Tystysgrif Cymorth Cyntaf.
Hyfforddiant Makaton
Hyfforddiant Elkan
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o ddarparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd.
Dymunol Profiad o weithio yn y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Dealltwriaeth o'r mathau o ffactorau sy'n effeithio ar fywydau plant a'u teuluoedd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu.
Gwybodaeth am y Dechrau'n Deg, Cwricwlwm i Gymru, Chwarae a'r Cynnig Gofal Plant
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Gwybodaeth drylwyr am yr arfer orau wrth ofalu am blant hyd at 11 oed.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd i blant oed ysgol.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfle cyfartal.
Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant a'r gallu i fodloni anghenion plant unigol gan ddangos ystod eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol
Dymunol Sgiliau cyfrifiadurol da.
Trwydded yrru gyfredol lawn
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo arweinydd y Feithrinfa a Rheolwraig y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pop plentyn sy'n mynychu miehtrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer •
Prif ddyletswyddau • Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad a Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu trosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Dirprwyo i arweinydd neu dirprwy reolwr y Feithrinfa mewn trosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd
• Agor a chau y feithrinfa a gweithredu fel dirprwy i'r arweinydd neu'r dirprwy reolwr yn ystod y cyfnodau ar ddechrau'r dydd/ diwedd dydd, amser brecs a cinio a phan mae arweinydd yn cael amser di gyswllt, ar hyfforddiant neu'n sal.
• Meddu at dealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio'r system gweithwyr allweddol.
• Cydweithio gyda'r arweinydd i roi proffiliau un tudalen mewn lle a gweithredu trefniadau ADY y plant o fewn yr ystafell gan cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd a'i gyfoedion i fwynhau ac elwa o weithgareddau'r feithrinfa. Cyfrifoldeb i gyfrannu i'r broses o asseu ac arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd
• sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Feithrinfa, gan addasu'r adnoddau a'r gweithgareddau lle bo angen
• Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy'n cymell y plant i chwarae'n rhydd.
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy'n mynychu'r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hil, crefydd, iaith ac anabledd.
• Gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr a'r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer gweithgareddau ac arddangosfeydd sy'n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy'n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
• Bod mewn cyswllt a rhieni/gofalwyr ac annog iddynt fod a wnelo a lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a'u datblygiad.
• Parchu a dilyn trefniadau ar gyfer babanod a phlant bach sy'r feithrinfa fel yr amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
• Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o'r ysgol a llefydd eraill.
• Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy'r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo'r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Cyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
• Ymgyfarwyddo a dilyn Safonau Cenedlaethol gofal dydd llawn mae'n ofynnol eu Arolygaeth Gofal Cymru (CIW).
• Cydrannu'r cyfrifoldeb dros warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y cynhwysir o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
• Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant
• Meithrin perthnasoedd gweithio da gydag a dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud a datblygiad a gofal plant unigol.
• Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a dal i feddu ar y wybodaeth diweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy'n berthnasol i'r swydd.
• Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
• Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glan gydol yr amser.
• Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i'r sicrhau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledau, yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy'r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig • Gofyn gweithio ar rota hyblyg rhwng 8 y.b. a 6.y.h. Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr