*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elen Foulkes ar 01248 352436
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 30/06/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
Y gallu i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau gyda phobl a mudiadau amrywiol
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd
Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau Creadigol a rhagweithiol
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
NVQ3 mewn cymhwyster perthnasol neu gyfatebol 3 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
Cymhwyster neu hyfforddiant mewn TG, cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth.
DYMUNOL
Hyfforddiant neu sgiliau ffotograffiaeth, golygu fideos a chreu cynnwys
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad mewn marchnata, cyfathrebu a / neu rôl gweinyddiaeth gefnogol.
Profiad o gyfathrebu ac ymwneud yn effeithiol gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Profiad proffesiynol o hyrwyddo gwybodaeth drwy gyfryngau amrywiol e.e newyddlenni, digwyddiadau, cyfarfodydd, cyflwyniadau, platfformau cyfryngau cymdeithasol (Instagram a Facebook yn bennaf).
Profiad o weithio ar feddalwedd dylunio megis Canva ac Adobe Creative Suite.
DYMUNOL
Gweithio mewn cyd-destun cefnogi plant a theuluoedd
Profiad o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil ffurfiol ac anffurfiol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a'r gallu i ymwneud â phobol yn effeithiol gan barchu'r angen am gyfrinachedd.
Dealltwriaeth o egwyddorion marchnata a strategaethau ymgysylltu â'r gynulleidfa darged.
Dealltwriaeth o frandio a pwysigrwydd cysondeb brand.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog
Sgiliau cyflwyno
Sgiliau trefnu da
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
Gwybodaeth am y sector Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Sgiliau ymchwil a dadansoddi gwybodaeth
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Ymgysylltu â rhanddeiliad er mwyn cynnal perthnasoedd a chodi proffil yr Uned.
Cynorthwyo'r Uned gyda holl waith marchnata'r Uned, creu deunydd marchnata a sicrhau bod brand y gwasanaeth yn cael ei gyfathrebu'n glir ac ei gynnal.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Gliniadur, Ffôn Symudol
Prif Ddyletswyddau.
Cynorthwyo Swyddogion Gwybodaeth i Deuluoedd gyda marchnata holl waith Teulu Gwynedd drwy sicrhau fod brand Teulu Gwynedd yn cael ei adlewyrchu ymhob ymgyrch cyhoeddusrwydd. Bydd angen sicrhau cefnogaeth i sicrhau fod y canlynol wedi'i gyflawni'n gyson:
i. diweddaru rheolaidd i'r tudalennau Gwasnaethau Plant a Teulu Gwynedd ar safle we'r Cyngor gan gynorthwyo'r swyddogion gyda tasgau perthnasol er mwyn cyflawni gofynion cysondeb ar dudalennau Gwasanaethau Plant e.e. Grŵp Tasg
ii. cynorthwyo'r cymhorthyddion gweinyddol i ddilyn canllawiau brandio ar gyfer hyrwyddo gwybodaeth yr Uned ar y cyfryngau cymdeithasol sef Facebook ac Instagram
iii. gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau
iv. cynhyrchu defnyddiau cyhoeddusrwydd
v. cadw stoc o ddeunyddiau marchnata
Cynhyrchu deunydd ymgysylltu a marchnata yn unol â chanllawiau brand yr Uned ar gyfer hyrwyddo ystod eang o wasanaethau a digwyddiadau a chynhaliwyd gan dimoedd yr Uned.
Defnyddio meddalwedd Canva a pecyn brandio'r Uned ar gyfer cadw cysondeb ac adeiladu brand yr Uned.
Cynnal y platfformau hyrwyddo digidol gan sicrhau fod amrywiaeth o'r prosiectau yn cael sylw effeithiol ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned a gwefan y Cyngor
Sicrhau cynhaliaeth amserlen pyst cyfryngau cymdeithasol drwy gwblhau adolygiad dadansoddol cyson a gweithio tuag at cael fwy o ddilynwyr a chyrhaeddiad uchel ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned. •
Adnabod tueddiadau marchnata gyfredol a mynychu hyfforddiant er mwyn sicrhau defnydd cyson o feddalwedd diweddar.
Trefnu a chynnal sesiynau estyn allan i godi proffil Teulu Gwynedd ar draws yr awdurdod, a chefnogi /mentora teuluoedd sydd yn chael hi'n anodd i gael mynediad digidol i wybodaeth perthnasol.
Cefnogi darparwyr ymyraethau / gwasanaethau o bob sector i sicrhau fod eu gwybodaeth ar gael i deuluoedd y sir (uchafu defnydd o adnoddau megis DEWIS, Gwefan y Cyngor a rhwydweithiau cymdeithasol).
Sicrhau cefnogaeth i'r Uned gyda ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael drwy ein cyfryngau cymdeithasol. •
Cyfrifoldeb dros ymateb neu arall gyfeirio ymholiadau gan deuluoedd a darparwyr gofal plant at swyddogion perthnasol yn ôl yr angen.
Cynrychioli'r Uned mewn digwyddiadau yn rheolaidd ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau'r Uned.
Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol â'r cyhoedd, swyddogion mewnol ar draws yr Awdurdodau Lleol, asiantaethau statudol a gwirfoddol, a sefydliadau y maes plant a theuluoedd.
Unrhyw ddyletswyddau eraill perthnasol i'r swydd ar gais y rheolwr.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data •
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos. Yn achlysurol bydd cais i weithio ar rota hyblyg rhwng 8am a 6pm. Hefyd bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr