Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Trefnus, Dibynadwy a Pharod i Gefnogi? Efallai mai dyma'r swydd ar eich cyfer.
Ydach chi'n chwilio am swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol a datblygu eich sgiliau? Dewch i fod yn rhan o un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal! Rydym yn dîm croesawgar a chefnogol, ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i ddarparu gwasanaethau pwysig i bobl yng Nghonwy.
Fel Swyddog Cefnogi Busnes, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein tîm Gwasanaethau Anabledd sefydledig. Byddwch yn cael eich cefnogi a'ch mentora bob cam o'r ffordd gan gydweithwyr profiadol, wrth i chi ymgymryd ag ystod o dasgau gweinyddol.
Byddwch yn cyflawni tasgau megis: • Trefnu a chadw cofnodion mewn cyfarfodydd • Ateb galwadau ffôn a helpu pobl i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir • Diweddaru cofnodion a gweithio gyda data
Dyma'r swydd berffaith os ydych chi'n: • Unigolyn trefnus, sy'n mwynhau cefnogi eraill • Gyda phrofiad o ddefnyddio rhaglenni TG megis Word ac Excel • Cyfathrebu'n hyderus dros y ffôn, yn ogystal ag wyneb yn wyneb • Eisiau dysgu pethau newydd ac ennill profiad
Rydym yn gwerthfawrogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig dewisiadau gweithio'n hyblyg, gan gynnwys gweithio cyfunol o gartref a chael mynediad i'n swyddfa fodern ym Mae Colwyn.
Byddwch hefyd yn elwa o becyn gwobrau hael, gan gynnwys: • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Tâl Salwch Galwedigaethol • Ymysg buddion i staff mae cynllun aberthu cyflog i brynu car, cynllun Beicio i'r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, a gostyngiadau manwerthu • ....a llawer iawn mwy!
Os ydych chi'n chwilio am swydd ystyrlon a chefnogol, yn ogystal â lle gwych i ddechrau a datblygu eich gyrfa, cliciwch i wneud cais nawr.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:Bryony Slater, Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg ( bryony.slater@conwy.gov.uk / 01492 576546)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr