28 awr yr wythnos Gradd 4 - £25,583 (£19,360 ar gyfer 28 awr yr wythnos) Cartref Henoed Parc Newydd, Parc Glas, Tonysguboriau, CF72 8RB Ydych chi'n unigolyn gofalgar sy'n dymuno helpu pobl ac sy'n chwilio am swydd mewn amgylchedd Cegin? Os felly, ymunwch â ni, rydyn ni'n chwilio am unigolion i ymuno â'n carfan ymroddedig yng Nghartref Henoed Parc Newydd, sydd wedi'i leoli ychydig oddi ar y parc manwerthu yn Nhonysguboriau, o fewn pellter cerdded i'r orsaf fysiau leol.
Amdanom ni... Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 32 o unigolion sydd â diagnosis o ddementia a gofal preswyl cyffredinol. Rydyn ni'n cefnogi ein preswylwyr i gynnal sgiliau annibyniaeth, a’u hannog i barhau i fod yn annibynnol. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo urddas a phreifatrwydd bob amser. Rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl ac yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau cymdeithasol.
Rydyn ni'n wasanaeth wedi'i reoleiddio felly rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigol a sicrhau bod cynlluniau wedi'u seilio ar ddeilliannau.
Y rôl... Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy’n gweithio'n dda gydag eraill i weithio yn rhan o’n gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweithio yn rhan o garfan y gegin, mae’n bosibl y bydd angen coginio yn absenoldeb y prif gogyddion, paratoi bwyd i fodloni gofynion dietegol unigolion yn unol âu cynllun gofal, archebu stoc, cylchdroi stoc, cyflawni dyletswyddau cegin cyffredinol, cwblhau amserlenni tasgau a chwblhau'r Llawlyfr Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell.
Dyma rôl 7 awr y dydd dros wythnos 4 diwrnod a bydd yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc, a chaiff y gweithiwr daliadau ychwanegol am weithio ar yr adegau yma. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac mae'n bosibl y bydd angen iddyn nhw weithio orau amgen i gefnogi anghenion ein cartref.
Bydd gan ymgeiswyr y swyddi yma agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd cegin a gweithio gyda neu dreulio amser gyda phobl hŷn neu bobl ag anableddau o fantais. Byddwch chi'n derbyn cymorth i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd. Bydd angen i chi gyflawni hyfforddiant yn benodol i'r swydd a thystysgrif diogelwch bwyd.
Buddion... - Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i ariannu
- Cefnogaeth lawn a rhaglen hyfforddiant am ddim
- Cysgodi aelodau o staff profiadol yn ystod eich cyfnod sefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim gan gynnwys hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi a gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn gweithle hael
- Cerdyn buddion staff
- Mynediad at ostyngiadau Cerdyn Golau Glas
- Cyfleoedd cynnydd yn y gwaith
Oes diddordeb gyda chi...? Hoffech chi sgwrs anffurfiol neu fwy o wybodaeth? Cysylltwch ân cartref a'n carfan reoli sy'n fwy na hapus i siarad â chi:
Annette Hopkins (Rheolwr Cofrestredig) – (01443) 237848.
Rydyn ni'n rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn Cymru. Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy anfon e-bost aton ni â chopi o dystysgrifau (Diogelu a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol). Byddwn ni'n cysylltu â chi pan fyddwn ni wedi derbyn eich gwybodaeth.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.