Ydych chi'n unigolyn gofalgar sy'n dymuno helpu pobl ac sy'n chwilio am swydd gofal/cynnal cartref hyblyg? Os felly, ymunwch â ni! Rydyn ni'n chwilio am unigolion i ymuno â'n carfanau ymroddedig yn ein cartrefi gofal a chanolfannau adnoddau.
Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd a safon uchel i unigolion sydd â diagnosis o ddementia neu anabledd dysgu, ac yn eu cynorthwyo nhw i gynnal sgiliau ac annog annibyniaeth. Rydyn ni'n hyrwyddo urddas a phreifatrwydd bob amser, gan barchu eu dewisiadau ac yn ennyn diddordeb unigolion mewn gweithgareddau ac achlysuron cymdeithasol. A ninnau'n wasanaeth wedi'i reoleiddio, rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigolion a chreu cynlluniau sy'n seiliedig ar ddeilliannau.
Rydyn ni'n awyddus i glywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gweithio'n dda gydag eraill i weithio'n rhan o'n gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael ar fyr rybudd er mwyn cynorthwyo'n cartrefi gofal a gweithio pan fydd staff parhaol yn absennol yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a dros nos.
Bydd angen i chi feddu ar agwedd gadarnhaol a deall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio neu dreulio amser gyda phobl hŷn neu bobl ag anableddau o fantais. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cymorth i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – dyma raglen i’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd a chofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r budd-daliadau yma'n cynnwys: - Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i dalu
- Aelodaeth cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i dalu
- Rhaglen hyfforddi am ddim
- Cyfle i gysgodi aelodau o staff profiadol yn y cyfnod ymsefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol am ddim gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi a chwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn hael
- Cerdyn gostyngiadau i staff
- Mynediad at ostyngiadau Cerdyn Golau Glas
- Cyfle i ddatblygu'ch gyrfa
Os hoffech chi sgwrs anffurfiol neu os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor cyn cyflwyno cais, ffoniwch Dawn Williams (Rheolwr Cofrestredig) ar 01443 878485.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.