Swyddfa... Canolfan Adnoddau Tŷ Glynrhedynog (Ferndale House)
Heol yr Orsaf
Glynrhedynog
CF43 4ND
Mae'r cartref ym mhentref Glynrhedynog yn agos at yr holl fwynderau lleol, gan gynnwys bysiau i'r ardaloedd cyfagos.
Amdanom ni... Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer hyd at 20 o unigolion sydd â diagnosis o ddementia a phreswylwyr gofal cyffredinol. Rydyn ni'n cefnogi preswylwyr i gynnal eu sgiliau, annog annibyniaeth a hyrwyddo urddas a phreifatrwydd ar bob adeg. Rydyn ni'n parchu dewisiadau pobl ac yn sicrhau bod unigolion yn ymgysylltu â gweithgareddau ac achlysuron cymdeithasol.
Rydyn ni'n wasanaeth wedi'i reoleiddio felly rydyn ni'n canolbwyntio ar annog anghenion gofal unigol a sicrhau bod cynlluniau wedi'u selio ar ddeilliannau.
Y swydd... Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy'n ddibynadwy, sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gweithio'n dda gydag eraill ar gyfer ymuno â'n gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael ar fyr rybudd er mwyn cynorthwyo'n cartrefi gofal a gweithio pan fydd staff parhaol yn absennol yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a dros nos.
Bydd angen i chi feddu ar agwedd gadarnhaol a deall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio neu dreulio amser gyda pherson hŷn neu berson ag anabledd o fantais. Byddwch chi'n derbyn cymorth i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd a chofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Buddion... - Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i dalu
- Aelodaeth ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i thalu
- Rhaglen hyfforddi am ddim
- Cyfle i gysgodi aelodau o staff profiadol yn y cyfnod ymsefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol am ddim gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi a chwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn hael
- Cerdyn gostyngiadau i staff
- Mynediad at ostyngiadau Cerdyn Golau Glas
- Cyfle i ddatblygu'ch gyrfa
Oes diddordeb gyda chi? Am sgwrs anffurfiol neu i gael gwybod rhagor am y swydd cyn i chi gyflwyno cais, cysylltwch â'n cartref a'n carfan rheoli a fydd yn hapus i siarad gyda chi:
Tŷ Glynrhedynog (Ferndale House) – Laura Andrei – (01443) 730614
Rydyn ni'n rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn.Cymru. Ffoniwch ni neu anfon copi o'ch tystysgrifau mewn e-bost (Diogelu a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol). Byddwn ni'n cysylltu ar ôl derbyn eich gwybodaeth.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.