Cofleidio cartref oddi cartref:
Yng Nghartref Preswyl Hillside, rydym yn ymfalchïo mewn darparu gofal preswyl parchus mewn awyrgylch cynnes, cyfeillgar a hamddenol. Ein cenhadaeth yw cefnogi ac annog oedolion mewn angen, gan eu helpu i fyw bywydau bodlon a gweithgar.
Mae eich taith yn dechrau yma:
Rydym yn credu mewn buddsoddi yn ein tîm, ac mae cyfleoedd swyddi parhaol ar gael nawr. P'un a yw'n well gennych oriau amser llawn neu ran-amser, shifftiau dydd neu nos, mae gennym ni'r ateb perffaith i chi.
Mae ymuno â'n tîm yn golygu manteision gwych:
Cyfradd gychwynnol fesul awr: £11.98 ar gyfer rolau cynorthwywyr gofal. Telir lwfansau ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau. Pecyn gwyliau hael. Aelodaeth o gynllun pensiwn â buddion diffiniedig ar sail cyfartaledd cyflog gyrfa. Darperir gwisg gyfforddus. Cofleidiwch hyblygrwydd gyda'n hamserlenni gwaith hwylus. Gwireddwch eich potensial gyda hyfforddiant a chymorth ar gyfer cymwysterau Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig. Cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygu gyrfa hyblyg
Cofleidio amrywiaeth, personoli, a thwf:
Fel rhan o'n tîm tosturiol, byddwch yn rhoi sylw i anghenion personol ein cleientiaid gwerthfawr, gan sicrhau eu bod mor annibynnol â phosibl. Bydd eich dyletswyddau'n amrywiol a boddhaus, yn amrywio o ofal personol i weithgareddau difyr sy'n gwneud pob diwrnod yn arbennig.
Cysylltwch â ni heddiw:
Os ydych yn barod i gychwyn ar daith werth chweil, ffoniwch Annette Narbett (rheolwr y cartref) ar 01348 873888 neu anfonwch neges e-bost at Annette.Narbett@pembrokeshire.gov.uk i drafod y cyfleoedd gwaith anhygoel yn Hillside.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl eraill. Ymunwch â ni yng Nghartref Preswyl Hillside i ddarganfod gyrfa sy'n wirioneddol bwysig!
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.