Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1363
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Iechyd Meddwl - Tîm y De, Llanelli
Nifer y swyddi gwag: 2
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd F
Cyflog: £27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £14.36 - £16.37
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Lleoliad: Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Llanelli a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Caerfyrddin
Ydych chi'n chwilio am gyfle i weithio yng nghefn gwlad hardd a heddychlon gorllewin Cymru ac i awdurdod lleol blaengar sy'n darparu cefnogaeth dda i'w staff?
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i ymarfer fel cynorthwyydd gwaith cymdeithasol.
Mae dwy flynedd o bandemig byd-eang wedi cael effaith ddramatig ar iechyd a llesiant y genedl ac ni ellir tanbrisio'r effeithiau hirdymor ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein Timau Iechyd Meddwl yn Llanelli a Chaerfyrddin, ac rydym ar hyn o bryd yn chwilio am gynorthwyydd gwaith cymdeithasol cymwys a phrofiadol i ymuno â'n tîm.
Rydym yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig a chydnerth i ymuno â'n Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn Llanelli a Chaerfyrddin, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan gynorthwywyr gwaith cymdeithasol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso.
I fod yn llwyddiannus, bydd yn rhaid eich bod yn frwd dros hybu annibyniaeth, yn gwybod beth yw arfer da, ac yn brofiadol o ran cyflawni canlyniadau rhagorol ac ymyriadau o safon i'r grŵp dinasyddion a'u teuluoedd wrth y drws blaen. Dylai ymgeiswyr weithio'n dda mewn amgylchedd gwaith heriol a gallu rheoli galwadau sy'n groes i'w gilydd, gan weithio mewn partneriaeth â dinasyddion, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn rheoli eich llwyth achosion bach eich hun ac yn ymarfer yn bennaf mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau o dan gylch gwaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd cynnal asesiadau, cynhyrchu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth yn elfennau sylfaenol o'ch rôl.
Byddwch yn eich tro yn cael goruchwyliaeth gyson ac yn rhan o amgylchedd cefnogol lle bydd cyfleoedd i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu teithio ledled y sir.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Michelle Thomas-Luisi 01554 772768 - MThomasLuisi@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: Job profile SWA January 25.pdf - 204KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 28/04/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.