Oriau gwaith: 1 swydd 21 awr yr wythnos/1 swydd 12 awr yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser
Lleoliad: Cartref Preswyl Tŷ Clyd
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £14,073.41 (21 oriau yr wythnos) / £8,041.95 (12 oriau yr wythnos) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cartref Preswyl Tŷ Clyd yn chwilio am 2 Gynorthwyydd Domestig i weithio naill ai yn y ceginau yn cynorthwyo'r Cogyddion, neu i ymgymryd â dyletswyddau golchi dillad a/neu lanhau.
Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd gofal a gwybodaeth am y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), y Ddeddf Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol.
Rhaid i chi fod â gwybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon e.e. urddas, dewis ac ati, mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu i weithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Jones ar 01443 875553 neu ebost:
jonesm14@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.