Oriau gwaith: 14 – 28 oriau
Math o gontract: 3 x Parhaol/ Rhan Amswer
Oriau gwaith: 14 oriau
Math o gontract: 3 x Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 30ain Tachwedd 2025
Lleoliad: Cartref Preswyl Trem y Castell
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13.26 - £14.13 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl?
Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol?
Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae Cartref Preswyl Trem y Castell yn chwilio am 4 Cynorthwyydd Gofal i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn ac oedolion hŷn â dementia. Rydyn ni'n awyddus i recriwtio ar gyfer tair swydd barhaol ac un swydd am gyfnod penodol. Mae patrymau gwaith y rota dros gyfnod o 7 diwrnod. Amseroedd y sifftiau yn fras yw 7am-2.30pm a 2.30pm-10pm.
Bydd cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol.
Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai profiad o weithio gydag oedolion hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol.
Byddwch chi’n deall natur sensitif a chyfrinachol y swydd a byddwch chi’n gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn eich bod chi'n bodloni'r canlynol: - Yn fodlon cyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Yn meddu ar wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o ansawdd, e.e. urddas, dewis, ac ati.
- Yn meddu ar y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Yn dangos empathi, yn gwrtais, yn ymatebol ac yn sensitif i anghenion unigolion.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mandy Chattaway ar 02920 852554 neu ebost: chattm@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.