- helpu i wisgo a hylendid personol
- gwaith yn y tŕ, fel golchi dillad, smwddio, coginio a glanhau
- siopa
- trafnidiaeth a mynychu gweithgareddau dydd
- helpu gydag apwyntiadau meddygol a meddyginiaeth
Mae trwydded yrru lawn a glân a defnydd o gar yn ofynnol ar gyfer y RHAN FWYAF o swyddi. (Rhaid i yswiriant eich cerbyd gynnwys defnydd busnes er mwyn i chi allu defnyddio'r cerbyd yn ystod oriau gwaith.)
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a gaiff eu defnyddio gan y cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr a gweithlu'r cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr, a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r cyngor neu'n gweithio ar ran y cyngor.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. (Argymhellwn y defnydd o wasanaeth diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd defnyddio'r gwasanaeth hwn yn cyflymu'r broses os ydych yn ceisio am swyddi fel cynorthwyydd personol yn y dyfodol. Sylwer bod ffi o £13.00 ar gyfer y gwasanaeth hwn.)
Gellir gweld swyddi gwag presennol ar gyfer cynorthwywyr personol yn https://www.pembrokeshire.gov.uk/social-care-current-vacancies/personal-assistant-vacancies
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl ar 01437 775655.
Yn ogystal â hyn, os oes gennych unrhyw anghenion pellach neu os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni ar 01437 775655 neu drwy anfon e-bost at directpaymentsrecruit@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych chi'n ddefnyddiwr presennol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau ffurflen gais.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.