Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 975
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Caemaen
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Rhan-amser
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd A +8%
Cyflog: £25,548
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £13.24
Oriau Contract: 15
Dewch i ymuno â'n tîm Os ydych yn angerddol dros fwyd ac mae gennych ymagwedd dda tuag at waith, hoffem glywed gennych oherwydd mae angen Cynorthwyydd Arlwyo ar ein tîm ymroddedig a chryf ei gymhelliant.
Cewch gyfle i weithio mewn amgylchedd prysur a chyffrous wrth weithio i ni. Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo ein Cogydd i baratoi prydau bwyd maethlon a blasus gan sicrhau y cydymffurfir â phob agwedd ar Hylendid Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys gosod a chlirio byrddau, ac ymgymryd â dyletswyddau glanhau cyffredinol. Os ydych yn gobeithio dechrau gyrfa mewn arlwyo neu hyd yn oed yn dymuno newid eich swydd, gallai'r rôl hon eich helpu i ddechrau ar y llwybr hwnnw.
Mae arnom angen unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sy'n meddu ar y canlynol: -
- Y gallu i feithrin perthnasoedd da gyda rhieni a phlant ar sail parch at y naill a'r llall.
- Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd sylfaenol. Byddai hyn yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.
- Sgiliau pobl a sgiliau cyfathrebu da
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Bydd angen arnoch:
- Agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
- Hyblygrwydd a'r parodrwydd i gynorthwyo â dyletswyddau arlwyo eraill.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â JESzubka @carmarthenshire.gov.uk Tel 0 1554 771835
Disgrifiad Swydd: 012083.pdf - 135KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 28/11/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.