Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
CYMHORTHYDD CEFNOGI BUSNES GWASANAETH AILALLUOGI/GOFAL YN Y CARTREF
GOFAL CYMDEITHASOL
G04 £24,790 y flwyddyn 27 awr yr wythnos Swydd barhaol
Mae swydd wag ar gael ar gyfer Cymhorthydd Cefnogi Busnes yn yr Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd y swydd yn y Gwasanaeth Gofal Cartref / Ailalluogi yn Crown yn Wrecsam.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys diweddaru systemau gwybodaeth, mewnbynnu, casglu a dadansoddi data, cymryd cofnodion, teipio a dyletswyddau clercio cyffredinol i'r gwasanaethau. Chi fydd y pwynt cyswllt i bobl rydym yn eu cefnogi, staff proffesiynol a sefydliadau eraill sy'n gwneud ymholiadau i'r Adran, a byddwch yn gyfrifol am drefnu apwyntiadau a rheoli dyddiaduron.
Fe ddylech chi fod â phrofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft, e.e. Word ac Excel, ac fe ddylech feddu ar sgiliau rhifedd a chyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Yn gyfnewid am hynny rydym yn cynnig swydd o fewn timau arloesol a deinamig, sy'n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl rydym yn eu cefnogi.
I drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â Jane Rowland - 01978 298411
Am ffurflenni cais a manylion eraill: Ffoniwch yr Adran Adnoddau Dynol 24 awr y dydd 01978 292992, neu dros e-bost: HRServiceCentre@wrexham.gov.uk
I wneud cais ar-lein, ewch i'n gwefan www.wrexham.gov.uk