Cynorthwyydd Cymorth Busnes i'r Uwch Reolwr (Gwasanaethau Oedolion) Swydd-ddisgrifiad Am y rôl: Mae'r rôl hon yn darparu cymorth gweinyddol hanfodol i uwch reolwyr, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu, a chofnodi cofnodion yn unol â safonau'r Cyngor. Mae hefyd yn cynnwys cynorthwyo gyda phrosesau Adnoddau Dynol, gan sicrhau bod goruchwyliaeth ac arfarniadau staff yn cael eu cwblhau'n brydlon, a c hamau gweithredu
dilynol i gefnogi rheoli gwasanaeth yn effeithiol. Amdanoch chi: • Sgiliau trefnu cryf - i reoli calendrau cymhelth, cyfarfodydd a therfynau amser yn effeithlon. • Sylw i fanylion - ar gyfer cymryd cofnodion cywir, cadw cofnodion, ac olrhain camau weithredu dilynol. • Cyfathrebu clir - cysylltu'n effeithiol ag uwch reolwyr a sicrhau eglurder o ran agendâu a dogfennaeth. • Meddylfryd rhagweithiol - i ragweld anghenion, olrhain materion sydd angen eu cwblhau, a chefnogi prosesau cydymffurfio. • Cyfrinachedd a phroffesiynoldeb - yn enwedig wrth ymdrin â thasgau sy'n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol a gwybodaeth sensitif. • Brwdfrydedd dros gefnogi timau - gyda diddordeb gwirioneddol mewn helpu gwasanaethau i redeg yn ddi-drafferth ac yn effeithiol. Yr hyn y byddwch yn ei wneud: • Darparu cymorth gweinyddol lefel uchel i'r Uwch Reolwr, gan gynnwys rheoli negeseuon e-bost, y post a'r dyddiadur. • Cydlynu a pharatoi cyfarfodydd, gan gynnwys drafftio agendâu, cymryd cofnodion, a threfnu logisteg yn unol âr Cyngor. • Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng adrannau mewnol, sefydliadau allanol, a'r Uwch Reolwr, gan ymdrin ag ymholiadau sensitif gyda disgresiwn. • Cefnogi prosesau Adnoddau Dynol a chaffael, gan gynnwys archebu nwyddau, prosesu anfonebau, a chynorthwyo gyda materion sy'n ymwneud â staff. • Monitro terfynau amser a chamau gweithredu dilynol, gan sicrhau bod materion pwysig yn cael eu holrhain a'u huwchraddio'n briodol. • Cynnal cyfrinachedd a phroffesiynoldeb, yn enwedig wrth ddelio â gwybodaeth sensitif a materion gwleidyddol gymhleth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: recruitment@powys.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr