- helpu i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth ar-lein ar gael, yn gyfredol, ac yn bodloni anghenion penodol defnyddwyr gwasanaethau i'w galluogi i gael mynediad at gymorth priodol yn eu cymunedau yn annibynnol
- cynyddu presenoldeb digidol y tîm i'r eithaf, gan hyrwyddo'r defnydd o lwyfannau digidol i gysylltu unigolion â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol priodol ledled Ceredigion
- helpu i gynllunio, datblygu a chynnal ymyriadau sy'n hyrwyddo canlyniadau da a fydd yn gwella diogelwch a gwydnwch defnyddwyr gwasanaeth
O Ddydd i ddydd byddwch yn
- helpu i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth ar-lein yn gyfredol ac yn berthnasol er mwyn diwallu anghenion penodol defnyddwyr gwasanaeth
- bod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu defnydd unigolion, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol o Dewis a llwyfannau digidol eraill
- helpu i ddatblygu a chynnal rhaglenni gwaith penodol gyda defnyddwyr gwasanaeth ar sail grŵp neu 1-1 gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill, yn enwedig o fewn y byd digidol
- helpu i baratoi adroddiadau, deunyddiau cyhoeddusrwydd, dogfennau eraill a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen
Rydym am recriwtio unigolyn
- mae angen sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i ymgysylltu'n effeithiol â phobl
- sgiliau TG rhagorol ar draws ystod o systemau ac offer, e.e. cronfa ddata cleientiaid gofal cymdeithasol, e-bost, rhaglenni dysgu ar y rhyngrwyd a rhaglenni Microsoft
- gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm ac ar eich liwt eich hun
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg , lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld
yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â:
sarah.griffiths@ceredigion.gov.uk Cynhelir cyfweliadau: Ym mherson, yn Penmorfa, Aberaeron. (Dyddiad i'w gadarnhau). Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cymorth Cynnar - Llesiant Cymunedol a Dysgu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys:
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy