Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Glanhawr Cartrefi Gofal
Disgrifiad o'r swydd
21 awr yr wythnos
Llety Preswyl i Bobl Hŷn Tŷ Cwm Ogwr
Rydym yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau i bobl sy'n cael eu cefnogi mewn lleoliad gofal preswyl parhaol neu dymor byr yn Nhŷ Cwm Ogwr. Cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth, adennill, gwella a chynnal sgiliau byw bob dydd, darparu'r canlyniadau gorau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt mewn amgylchedd diogel.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm y gegin gan gefnogi'r cogydd â thasgau dyddiol i sicrhau bod rheolaeth a safonau glendid a rheoli heintiau yn cael eu cynnal a bod bwyd o safon uchel yn cael ei weini i'r unigolion rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Cwm Ogwr. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys cefnogi' phrif ddyletswyddau fel glanhau holl ardal y gegin, paratoi rhai bwydydd, cylchdroi stoc, cefnogi'r cogydd, paratoi bwyd, cefnogi'r cogydd i weini'r bwyd, glanhau'r ardaloedd bwyta, gweithredu nwyddau trydanol fel peiriant golchi ac wrn dŵr poeth, meddu ar wybodaeth am Ganllawiau Bwyd Mwy Diogel. Ymwybyddiaeth o anghenion deietegol gwahanol, tymereddau oergell a rhewgell, tymereddau gweini bwyd, defnyddio cemegau yn ardal y gegin, hyfforddiant bwyd a hylendid Lefel 2 ac unrhyw hyfforddiant gofynnol arall a chymryd cyfrifoldeb am eich llesiant a bod yn ymwybodol o Bolisïau a Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd a chadw atynt.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu dangos parch, yn gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt. Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Dewch i ymuno â'n tîm ymroddedig ac ymrwymedig.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Oedolion Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 13 Chwefror 2026
Dyddiad Cyfweliad: 18 Chwefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr