Oriau gwaith: 28.5 Oriau
Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 30-06-2025
Lleoliad: Castle View Cartref Preswyl
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,706 - £21,004 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Oes gennych chi angerdd am weithio ym maes gofal, ac ydych chi’n ddibynadwy ac yn frwdfrydig?
Ydych chi’n ystyried eich hun yn ‘aderyn y nos’?
Mae Cartref Preswyl Castle View yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Nos i weithio 3 noson yr wythnos ar batrwm gwaith treigl, dros unrhyw 7 diwrnod yr wythnos. Byddwch chi’n darparu gofal personol a chymorth emosiynol ac ymarferol i bobl hŷn sy’n byw gyda dementia mewn amgylchedd sy'n darparu awyrgylch cartrefol, gan sicrhau bod hawliau, annibyniaeth a lles pobl yn cael eu cynorthwyo a'u cynnal.
Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Awydd i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen gytunedig.
- Gwybodaeth am ofynion Iechyd a Diogelwch.
- Y gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar y penwythnos, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mandy Chattaway/Jo-dee Hurley ar 02920 852554 neu ebost:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.