Oriau gwaith: 12 oriau (2 x 6 awr o sifftiau dros 7 diwrnod yr wythnos)
Mae patrymau gwaith rota dros gyfnod o 7 diwrnod. Tua'r amser newid yw 07:00-14:30 a 14:30-22:00Math o gontract: Rhan Amswer/ Cyfnod Penodol Tan 28-02-2026
Lleoliad: Cartref Preswyl Ty Clyd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £8,297 - £8,844 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl?
Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol?
Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae Cartref Preswyl Ty Clyd yn chwilio am Cynorthwyydd Gofal rhan amser i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai profiad o weithio gydag oedolion hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol.
Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Awydd i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen gytunedig.
- Gwybodaeth am ofynion Iechyd a Diogelwch.
- Y gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar y penwythnos, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Jones ar 01443 875553 neu ebost:
jonesm14@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.