Oriau gwaith: 1 x 17 oriau yr wythnos & 1 x 28 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol
/ Rhan Amswer
Lleoliad: Cartref Preswyl Tŷ Clyd
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £11,754 - £12,529 (17 oriau yr wythnos) / £19,360 - £20,636 (28 oriau yr wythnos)
ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl? Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfarnol? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy’n hybu awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae Cartref Preswyl Tŷ Clyd yn chwilio am 2 Gynorthwyydd Gofal i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles, a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddai profiad o weithio gydag oedolion hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
28 awr yr wythnos: 4 x sifft 7 awr dros wythnos 7 diwrnod ar batrwm rota 2 wythnos
17 awr yr wythnos (34 awr y pythefnos): Wythnos 1 – 14 awr / Wythnos 2 – 20 awr
Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod. Bydd cyfleoedd i weithio oriau ychwanegol.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar/yn gweithio tuag at Lefel 2 mewn gofal (NVQ 2, gynt), neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar y penwythnos, ar wyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Jones ar 01443 875553 neu ebost:
jonesm14@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.