Oriau gwaith: 0
Math o gontract: Achlysurol / Wrth Gefn
Lleoliad: Cartref Preswyl Min y Mynydd
Tîm: Gwasanaethau Preswyl i Bobl Hŷn
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13.69 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Allwch chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl? Ydych chi'n sensitif, yn gefnogol ac yn anfeirniadol? Hoffech chi fod yn rhan o dîm sy'n hyrwyddo awyrgylch cartrefol, cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion?
Mae Cartref Preswyl Min y Mynydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Gofal dros dro i ddarparu gofal a chymorth i oedolion hŷn â dementia. Bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau i gynorthwyo preswylwyr mewn modd urddasol a pharchus, gan hybu annibyniaeth a lles a mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid i chi feddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Mae patrymau gwaith y rota dros gyfnod o 7 diwrnod. Yr amseroedd shifft bras yw 07:00-14:30 a 14:30-22:00.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 (NVQ 2 yn gynt) mewn Gofal, yn gweithio tuag at y cymhwyster neu'n barod i gyflawni'r cymhwyster o fewn amserlen benodol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gwybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, e.e. urddas a dewis.
- Yn gallu ac yn barod i weithio'n hyblyg, gan gynnwys ar y penwythnos, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Heber Moseley ar 01685 840595 neu ebost:
MOSELH@CAERPHILLY.GOV.UK Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.