Oriau gwaith: 27 oriau 45 munudau yr wythnos. Bydd oriau'r swydd yn cael eu gweithio ar draws 3 noson yn ystod wythnos 7 diwrnod ar batrwm gwaith treigl, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Math o gontract: Rhan Amswer/Cyfnod Penodol Tan 30-09-2025Lleoliad: Cartref Preswyl Beatrice Webb, Coed Duon
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cefnogaeth ar draws y Tîm Gwasanaethau Preswyl ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,188 - £20,541 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n angerddol am weithio mewn gofal? Ydych chi'n ddibynadwy ac yn frwdfrydig? Ydych chi’n ystyried eich hun yn ‘aderyn y nos’?
Mae Cartref Preswyl Beatrice Webb yn chwilio am Gynorthwyydd Gofal Nos i ddarparu gofal personol a chymorth emosiynol ac ymarferol i bobl hŷn. Rydyn ni’n darparu awyrgylch gartrefol ac yn cynorthwyo a chynnal hawliau, annibyniaeth a lles ein preswylwyr.
Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn yn fuddiol, er nad yw'n hanfodol. Rhaid bod gennych chi wybodaeth am yr egwyddorion sy'n sail i ofal o safon, er enghraifft urddas a dewis. Rhaid i chi allu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, meddu ar ddealltwriaeth glir o natur sensitif a chyfrinachol y swydd, a bod yn gwrtais ac yn ymatebol i anghenion unigolion.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal (NVQ 2, gynt) neu barodrwydd i gyflawni’r cymhwyster o fewn amserlen benodedig.
- Gwybodaeth am ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Y gallu a’r parodrwydd i weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Stacey Suggit ar 01495 225773 neu ebost: SUGGIS@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.