Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2221
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Awst 2026
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£28,598 - £32,597
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.82 - £16.90
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae hwn gyfle cyffrous i ymuno â'n Tîm Anableddau integredig ar sail dros dro hyd at Awst 2026. Wedi'i leoli yn Rhydaman, mae'r tîm yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang ar draws Sir Gaerfyrddin.
Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc o 0 i 25 oed, bydd y rôl yn gofyn i chi ymgymryd ag asesiadau, cynllunio gofal a gwaith uniongyrchol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd ac addysg proffesiynol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i blant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd.
Mae hon yn rôl heriol ond gwerth chweil ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad o weithio gydag anableddau, cefnogi plant, pobl ifanc a gweithio gyda theuluoedd y mae angen cymorth arnynt.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Jonathan Waine
JJWaine@sirgar.gov.uk neu Gill Grennan-Jenkins,
GGrennan-Jenkins@sirgar.gov.uk Rheolwyr y Tîm Anableddau 0-25
Disgrifiad Swydd:
035299.pdf - 223KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 29/10/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.