Mae'r rôl yn ymwneud â llunio a gweithredu cynlluniau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n rhoi sylw i ganlyniadau, gan fod yn ymatebol a hyblyg i anghenion sy'n newid.
Porth Gofal yw'r hwb gwneud penderfyniadau integredig yng Ngheredigion sy'n brysbennu a phennu lefel angen pob achos a'n sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer yr unigolion hynny.
Mae Porth Gofal yn ganolog i'r ddarpariaeth o'r gwasnaeth sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod dinasyddion yn derbyn yr ymyrraeth orau i fodloni eu hanghenion neu'n eu cyfeirio at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.
Beth mae Porth Gofal yn ei ddarparu: - Gwasanaeth ymatebol i ddinasyddion sy'n byw yng Ngheredigion
- Mae'n gweithredu asesiad o anghenion ar sail cydnerthedd gan ganolbwyntio ar y dewis a'r rheolaeth sydd gan ddefnyddiwr y gwasanaeth drwy ddefnyddio'r fframwaith Arwyddion Diogelwch
- Lleihad yn yr amser y mae pobl broffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol yn ei dreulio yn cadarnhau a yw unigolyn yn gymwys ar gyfer gwasanaethau statudol
- Gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth sy'n bodloni gofynion statudol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
- Gwasanaeth diogel sy'n adnabod dinasyddion bregus a'r rhai mewn perygl, ac sy'n ymateb yn effeithiol
Beth mae Porth Gofal yn ei gyflawni: - Mae'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn y gymuned i oedolion sy'n gwella'r cyswllt rhwng pobl a'u cymunedau
- Mae'n annog dull cytbwys o asesu angen gan sicrhau bod dinasyddion yn ganolog i sgyrsiau a phenderfyniadau a bod y sgyrsiau "beth sy'n bwysig" yn digwydd
- Brysbennu amlddisbyblaethol atgyfeiriadau i ddynodi'r bobl broffesiynol briodol i ymateb e.e. ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol neu weithwyr Gofal Cymdeithasol i sicrhau'r ymateb iawn ar yr amser iawn
- Darparu asesiadau cydlynus a mwy cyson o ran gofal a chymorth
- Gwella llif y wybodaeth rhwng gwasanaethau a fydd yn golygu bod penderfyniadau ynghylch anghenion pobl a'r cymorth sydd ei angen arnynt yn cael eu gwneud yn gynt
- Mae'n lleihau'r nifer sy'n cael ei dderbyn i ysbytai. Mae'n darparu gwasanaeth mewngymorth i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal drwy sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau o ysbytai mewn modd amerol
Mae ymrwymiad i weithio integredig gan ganolbwyntio ar ganlyniadau adsefydlu cadarnhaol i'r dinesydd yn hanfodol.
Mae'r gallu i deithio ledled y sir yn hanfodol.
Rydym am recriwtio unigolyn sy'n meddu a: - HNC/Cymhwyster Nyrsio/NVQ4 mewn Gofal/Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) Diploma Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5, K101 neu gyfwerth
- Gwybodaeth am ddulliau ailalluogi ac ataliol sy'n gwella annibyniaeth
- Gwybodaeth am asesiadau gofal a chynllunio gofal
Mae polisi dwyieithog yn weithredol a rhoddir cefnogaeth ac anogaeth i ymgeiswyr nad oes ganddynt y gallu ieithyddol yn y Gymraeg i gyflawni'r safon ALTE o fewn 2 flynedd.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Jackie Roberts (01545 574 108)
jackie.roberts@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy