Fel cynorthwyydd gwaith cymdeithasol, byddech yn gweithio ochr yn ochr â staff gwaith cymdeithasol Cymwysedig i gyflawni tasgau penodol, cyfrannu at ddatblygu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a hwyluso grwpiau cymorth. Amcan ein gwasanaeth yw gweithio gyda gofalwyr maeth i ddarparu gofal cyfannol i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw yn eu teulu biolegol.
Fel un o'r tîm, byddwch yn cael eich goruchwylio'n rheolaidd ac yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddi.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd i unigolion sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol ac yn rhoi profiad gwerthfawr i unigolion sy'n dymuno symud ymlaen i hyfforddiant gwaith cymdeithasol.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cysylltwchâni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon cysylltwch â Sarah Codner:
Sarah.Codner@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy