Bydd cyfle hefyd i chi gymryd rhan mewn cefnogi ein teuluoedd sy'n darparu Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig a'n Cynllun Llety â Chymorth sydd newydd ei ddatblygu.
Fel Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol, byddech yn gweithio ochr yn ochr â staff Gwaith Cymdeithasol Cymwysedig i gyflawni tasgau penodol, cyfrannu at ddatblygu a gweithredu rhaglen o weithgareddau a hwyluso grwpiau cymorth.
Amcan ein gwasanaeth yw gweithio gyda gofalwyr maeth i ddarparu gofal cyfannol i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw yn eu teulu biolegol.
Fel un o'r tîm, byddwch yn cael eich goruchwylio'n rheolaidd ac yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddi.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd i unigolion sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol ac yn rhoi profiad gwerthfawr i unigolion sy'n dymuno symud ymlaen i hyfforddiant gwaith cymdeithasol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Codner:
Sarah.Codner@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy