Cynorthwyydd Gwasanaeth Dydd - Gwasanaeth Dementia Integredig
Dyddiad cau 18/02/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Ymarferydd cynorthwyol gofal dydd sesiynol / Dan oed ysgol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
5 swydd ar gael
Mae Gwasanaethau Dydd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cymorth galluogi i unigolion yn ein Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Dementia Integredig ar draws sawl safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn ceisio recriwtio pobl ymroddedig a phroffesiynol i ddarparu cymorth i'r unigolion sy'n mynychu ein gwasanaeth. Ein nod yw darparu cymorth cytbwys a theg i unigolion i'w helpu i gyrraedd eu potensial llawn, dyheadau a chyflawni eu canlyniadau personol.
Gan weithio fel rhan o dîm proffesiynol mawr byddwch yn gallu gweithredu dull galluogi o ran gofal a chymorth.
Mae cymhwyster Lefel 2 cydnabyddedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ofyniad neu barodrwydd i weithio tuag at hyn.
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi:
- Cyflog cystadleuol
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
- Cymwysterau wedi'u hariannu a'u cefnogi'n llawn
- Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
- Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/7 diwrnod yr wythnos/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
- Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
- Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
- Gwersi Cymraeg am ddim.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 09 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr