Oriau gwaith: 30 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer
Lleoliad: Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £20,743 - £22,110 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Prif ddiben y rôl fyddai ystyried anghenion corfforol, emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol unrhyw unigolyn sy'n cael cymorth, gan wneud sesiynau pobl yn bleserus ac yn ystyrlon. Bydd dull sy'n canolbwyntio ar y person wrth roi cymorth i unigolion yn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cyflawni i hyrwyddo eu hannibyniaeth, cynnal cyfeillgarwch a gwella eu lles.
Bydd un swydd yn cynnwys gwaith peripatetig a fydd yn golygu y byddwch chi'n cyflenwi ar gyfer staff presennol y tîm pan nad ydyn nhw yn y gweithle a bydd yr ail swydd yn gweithio i rota sefydlog.
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau ni'n cael eu cynnal, bydd angen i bob cynorthwyydd gwasanaeth dydd weithio'n hyblyg gyda ni i sicrhau bod lefel y cymorth sydd ei angen ar gael. Bydd hyn yn golygu bod y gallu i weithio dros gyfnod o 7 diwrnod yn un o ofynion hanfodol y rôl. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn unrhyw ardal yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod eich wythnos waith.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Dealltwriaeth o faterion anabledd fel grymuso, dewis ac eiriolaeth.
- Bydd angen trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i gludo unigolion ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michelle Pearce/Joanne Talbot ar 07768507942/07514951335 neu ebost:
Pearcm@caerphilly.gov.uk Talboj@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.