Oriau gwaith: 25
Math o gontract: Rhan Amser, Cyfnod Penodol Tan Mehefin 2026
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Gwasanaethau i Oedolion
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,839 - £19,014 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi eisiau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau drwy'r cymorth rydych chi'n ei ddarparu?
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein tîm ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Dydd am gyfnod penodol i weithio yn ein Tîm Cymunedol.
Byddwch chi'n gweithio'n beripatetig yn ein Tîm Cymunedol, a fydd yn golygu y byddwch chi'n cyflenwi ar gyfer y tîm staff presennol pan nad ydyn nhw yn y gweithle.
Mae ein Tîm Cymunedol yn darparu cymorth sesiynol sy'n galluogi unigolion i gael mynediad at weithgareddau o'u dewis yn eu cymunedau lleol.
Prif ddiben y rôl fyddai ystyried anghenion corfforol, emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol unrhyw unigolyn sy'n cael cymorth, gan wneud sesiynau pobl yn ddymunol ac yn ystyrlon. Bydd dull sy'n canolbwyntio ar y person o ran rhoi cymorth i unigolion yn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cyflawni i hyrwyddo eu hannibyniaeth, cynnal cyfeillgarwch a gwella eu lles.
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau'n cael eu cynnal, bydd angen i bob cynorthwyydd gwasanaeth dydd weithio'n hyblyg gyda ni i sicrhau bod lefel y cymorth sydd ei angen ar gael. Bydd hyn yn golygu bod y gallu i weithio dros gyfnod o 7 diwrnod yn un o ofynion hanfodol y rôl. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn unrhyw ardal yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod eich wythnos waith.
Bydd angen trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) ar staff cymunedol a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ag unigolion ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Dealltwriaeth o faterion anabledd fel grymuso, dewis ac eiriolaeth.
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal.
-
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Joanne Williams ar 07514951335 neu ebost:
willij48@caerphilly.gov.uk / Hayley John ar 07795411747 neu ebost:
johnh3@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.